top of page

Mae sŵn mawr ag alawon cain ar flaen y gad yng ngherddoriaeth y band chwe-aelod o Gaerdydd, Breichiau Hir.

 

Gan gymysgu dylanwadau o’r post-rock, emo, punk a shoegaze, mae Breichiau Hir yn creu cerddorfeydd llawn emosiwn, wedi’u cyflwyno mewn tonnau trwm.

 

Mae eu sioeau byw dwys yn mynnu sylw gydag egni gwefreiddiol a swnllyd, gyda’u geiriau mewnblyg yn cael eu canu’n amrwd, gyda’r nod i gysylltu a chreu awyrgylch agos.

 

Ar ôl cyfres o senglau, fe wnaethon nhw ryddhau eu halbwm cyntaf a enwebwyd am Wobr Gerddoriaeth Gymreig ac Albwm Cymraeg y Flwyddyn, Hir Oes I’r Cof yn 2021 ar Recordiau Libertino. Casgliad o ganeuon trawiadol ac emosiynol. Mae’r band ar hyn o bryd yn gorffen eu halbwm dilynol i’w ryddhau yn 2024.

BreichiauHir-1b.jpg
bottom of page